Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar
Blant sy’n Derbyn Gofal
DYDD MERCHER 7 MAI 2014
12.00-1.30
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:
David Melding AC - Cadeirydd
Craig Lawton - Staff Cymorth Suzy Davies AC
Yn bresennol:
Rhian Williams, Cynorthwyydd Personol / Ysgrifennydd Gweinyddol, Voices From Care - Cofnodwr
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:
Mark Isherwood AC
Deborah Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Voices From Care
CROESO A CHYFLWYNIAD GAN Y CADEIRYDD
Agorodd DM y cyfarfod a chroesawodd y rhai oedd yn bresennol.
COFNODION
Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2014 a byddent yn cael eu cymeradwyo yn y cyfarfod nesaf.
MATERION YN CODI
Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
ADRODDIAD BYWYD AR ÔL GOFAL COMISIYNYDD PLANT CYMRU
Cafwyd trafodaeth fer yn ymwneud ag adroddiad diweddar y Comisiynydd Plant, Bywyd ar ôl Gofal o ‘Ar Goll Ar ôl Gofal’ i ‘Pan fydda i’n barod’; sy’n rhoi manylion am dystiolaeth o waith achos a dderbyniwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd mewn perthynas â’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn derbyn gofal maeth a phreswyl.
Nodwyd fod angen cael cyngor a chefnogaeth cyn gadael gofal sy’n adlewyrchu
yr hyn y byddai pobl ifanc yn ei dderbyn pe baent yn byw o fewn teulu.
Unrhyw Fater Arall
Cododd RW y cwestiwn ar ran DJ o bresenoldeb anghyson yng nghyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn ddiweddar a chynnal ail-lansiad. Dywedodd DM fod tua 100 o Grwpiau Trawsbleidiol yn cwmpasu amrywiaeth o faterion ac un o ganlyniadau hyn yw bod y presenoldeb yn isel. Ychwanegodd fod ei amser ef yn brin, yn anffodus, oherwydd y cyfyngiadau amser yn ei rôl fel Dirprwy Lywydd ac awgrymodd efallai y dylid ystyried ymuno â’r Grŵp Hollbleidiol ar Blant.
Nododd DM nad oedd yn bryderus iawn am y presenoldeb isel gan nad oedd yn arbennig o unigryw, gyda llawer o grwpiau yn profi problem debyg. Awgrymodd gynnal digwyddiad; tebyg i’r hyn a gynhaliwyd yn y Pierhead, i ennyn brwdfrydedd pobl, yn hytrach nag ail-lansio’r grŵp.
CAM I’W GYMRYD: RW I GYSYLLTU AG S. SHARPE I DREFNU CYFARFOD GYDA DM A DJ I DRAFOD Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR BLANT SY’N DERBYN GOFAL.
Cytunwyd y byddai’r cyfarfod busnes nesaf yn cael ei gynnal yn yr hydref.
CAM I’W GYMRYD: RW I GYSYLLTU AG S. SHARPE AR GYFER DYDDIAD CYFARFOD YR HYDREF
Gan nad oedd unrhyw fater arall, daeth y cyfarfod i ben.